Gwahoddiad Agored

Bydd cipolwg sydyn i’r we yn dangos bod canu mewn côr yn dda i’ch iechyd meddwl a chorfforol. Ond hefyd mae llawer o hwyl i gael gan ganu mewn grŵp.

Côr Persain, sydd yn cwrdd bob wythnos yn Theatr y Glowyr yn Rhydaman, eisiau estyn gwahoddiad i bob un sy’n mwynhau canu, i ddod i’w hymarferion ym mis Mehefin.Mae’r côr yn cwrdd bob nos Fawrth am saith o’r gloch. Os oes rhywun yn meddwl am ymuno â chôr, mae’n gyfle gwych i weld yn union beth sy’n digwydd yn yr ymarferion. ‘Rwy wastad wedi hoffi canu,’ esboniodd Alison Williams, aelod o’r côr. ‘Ond roedd diffyg hyder gyda fi. Ond mae bod yn aelod o’r côr wedi rhoi hyder i fi a llawer mwy. Mae’r côr yn teimlo fel teulu ac mae pawb yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Dyma un o’r penderfyniadau gorau i fi!’ Ychwanegodd Chris Northover, ‘Amser i fi fy hun yw Nos Fawrth. Rwy’n gallu anghofio fy mywyd prysur ymysg grŵp hyfryd o ferched.’ Cytunodd Rhian Thomas yn llwyr, ‘Does dim byd gwell na’r teimlad o’n lleisiau yn dod at ei gilydd mewn cytgord perffaith.’

Yn ddiweddar, mae’r côr wedi cymryd rhan mewn sawl digwyddiad gwych, gan gynnwys dathlu Dydd Rhwngwladol Menywod gyda 14 côr merched arall. Canodd y côr yn San Steffan a hefyd cyn gêm rygbi rhwngwladol yn Stadium y Principality.

Mae’r côr yn canu mewn sawl ardull, gyda caneuon cymraeg, sioeoedd gerdd a cherdd cyfoes yn rhan o’i repertoire. Huw Morgan, cyfarwyddwr y côr, yn trefnu llawer o’r cerddoriaeth, sydd yn cynnig rhywbeth i blesio pawb.

Mae polisi drws agored gan Côr Persain: does dim clyweliadau a does dim eisiau darllen cerddoriaeth. Mae croeso mawr i bob un sy’n hoffi canu. Fel dwedodd Cherry Stevenson, ‘Roeddwn i’n meddwl y byddai’n her i ymuno a chôr heb brofiad blaenorol, ond ces i fy nghroesawu yn syth. Mae canu yn gwneud les i fy iechyd meddwl . Mae’n dda i’r enaid!’

Driven by curiosity and built on purpose, this is where bold thinking meets thoughtful execution. Let’s create something meaningful together.